BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The Circular Future Fund: Yr Her Miliwn o Bunnoedd

Mewn partneriaeth â Hubbub, mae Partneriaeth John Lewis yn lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi syniadau chwyldroadol ac arloesol a all gyflymu’r pontio tuag at economi fwy cylchol.

O ailystyried gwastraff gyda chynhyrchion neu ddeunyddiau newydd i ganfod ffyrdd creadigol o newid meddylfryd defnyddwyr i ddatblygu modelau busnes a gwasanaethau newydd - byddai’r Her yn hoffi clywed gennych chi.
Bydd y gronfa yn darparu grantiau o rhwng £150,000 a £300,000. Os ydych chi am gymryd rhan, yna cwblhewch eich cais erbyn 9 Ionawr 2022.

Os nad ydych chi’n teimlo eich bod mewn sefyllfa i wneud cais am gyllid ond yr hoffech chi glywed mwy, yna darllenwch am syniadau ac ymgyrchoedd Hubbub i gael ysbrydoliaeth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.circularfuturefund.co.uk/about 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.