BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Codi’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do

Heddiw, mae’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do wedi dod i ben.

Mae’r newid hwn yn golygu na fydd gofyniad cyfreithiol bellach ar bobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn ystod o leoliadau o dan do, gan gynnwys sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd.

Er hyn, bydd gwisgo gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i oedolion a phlant sy’n 11 oed ac yn hŷn, os nad ydynt wedi’u heithrio, ym mhob lleoliad manwerthu ac mewn rhai lleoliadau eraill gan gynnwys busnesau trin gwallt a harddwch, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Yn ogystal, bydd canllawiau swyddogol yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd gorchuddion wyneb yn un ffordd o helpu i ddiogelu pobl.

Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd canlyniadau’r adolygiad nesaf o’r rheoliadau yn cael eu cyhoeddi ar 4 Mawrth 2022 pan fydd yr holl fesurau sy’n weddill ar lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.