BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Codi’r taliad cymorth hunanynysu i £750

Yn dilyn newidiadau i'r polisi hunanynysu, bydd taliad cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru yn cael ei godi o £500 i £750.

Bydd y cynnydd yn dod i rym ar 7 Awst 2021 a chaiff ei adolygu gan y Gweinidogion ymhen tri mis. Mae'r taliad wedi'i gynllunio i oresgyn rhai o'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu (TTP) GIG Cymru am eu bod wedi cael prawf positif, am fod ganddynt symptomau coronafeirws neu am eu bod yn gysylltiadau agos sydd heb eu brechu'n llawn.

Mae'r cynllun taliadau, sydd wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2022, yn helpu i gefnogi pobl na allant weithio gartref yn ogystal â rhieni a gofalwyr â phlant, sydd wedi profi'n bositif ac sy'n hunanynysu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.