Mae'r Defence Science and Technology Laboratory (DSTL) wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer cyfres newydd o weminarau a gynlluniwyd i helpu busnesau bach a chanolig i weithio gyda'r sector amddiffyn.
Gweminarau rhad ac am ddim yw’r rhain, a does dim rhaid i fusnesau fod wedi gweithio gyda DSTL neu'r sector amddiffyn o'r blaen.
Mae croeso i weithgynhyrchwyr cyfarpar a deunyddiau, peirianwyr, arloeswyr, ymchwilwyr, academyddion, ac eraill sydd â gwir ddiddordeb a'r gallu i weithio gyda DSTL.
Dyddiadau ac amserau gweminarau
- Cyber: 19 Hydref 2021, 10am - 11:15am
- Defence S&T Futures: 19 Hydref 2021, 1pm - 2:15pm
- Advanced energetic materials: 16 Tachwedd 2021, 10am - 11:15am
- High speed and hypersonic science and technology: 14 Rhagfyr 2021, 10am - 11:15am
- Directed energy weapons science and technology future roadmap: 16 Rhagfyr 2021, 1pm - 2:15pm
- Space: 18 Ionawr 2022, 10am – 11:15am
- Artificial intelligence: 20 Ionawr 2022 1pm - 2.15pm
Rhagor o wybodaeth yn Gov.UK.