BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestrwch i ddweud eich dweud ar gynllun ffermio Cymru yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru’n annog ffermwyr i gofrestru er mwyn cael dweud eu dweud yng ngham nesaf y broses o gynllunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Cynhelir y cam nesaf hwn yn haf 2022 a gall pobl gofrestru nawr i fod yn rhan o’r broses. Bydd hyn yn cynnig y cyfle iddynt rannu eu barn ar ymarferoldeb y camau gweithredu arfaethedig sy’n sail i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a strwythur a phrosesau’r cynllun ehangach.

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cefnogi ffermwyr i leihau olion troed carbon eu ffermydd, gan helpu i wella’r amgylchedd a chefnogi’r gwaith o gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

I gofrestru i gael bod yn rhan o ail gam gwaith cyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ewch i https://llyw.cymru/cysylltwch-gwasanaeth-cysylltwyr-fferm 

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.