BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COP Cymru – llywio ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd

Mae COP Cymru’n gyfres o ddigwyddiadau sy’n cynnig cyfle i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn trafodaethau pwysig ynghylch y newid yn yr hinsawdd drwy: 

  • lansiad Cynllun Sero Net newydd Cymru ar 28 Hydref, lle fydd Gweinidogion yn egluro cam nesaf ein llwybr (2021 i 2025) i fod yn sero net erbyn 2050 
  • pedwar digwyddiad Sioe Deithiol Ranbarthol ledled Cymru (rhwng 4 a 10 Tachwedd) yn pwysleisio enghreifftiau perthnasol o arfer gorau a sicrhau bod cyfranogwyr yn ymgysylltu mewn trafodaethau pwysig ynghylch themâu allweddol COP26 
  • Wythnos Hinsawdd Cymru (rhwng 22 a 26 Tachwedd) trafodaeth genedlaethol yn cael ei chynnal dros bum diwrnod ar gynllun Sero Net Cymru a’r camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru’n bodloni ei thargedau newid yn yr hinsawdd ac yn addasu i’r patrymau tywydd newidiol rydym eisoes yn eu profi.
  • pecyn partneriad – rhannu neges COP Cymru o fewn eich sefydliadau a’ch rhwydweithiau

Bydd yr holl ddigwyddiadau COP Cymru’n cael eu darlledu’n fyw ar y dudalen Cynnwys Byw. Gall cynrychiolwyr cofrestredig hefyd gael mynediad at gynnwys ‘ar alw’, gwybodaeth am ddigwyddiadau ymylol ac adnoddau eraill.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: COP CYMRU 2021 | Hafan (eventscase.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.