BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cymorth yn ystod y pandemig i weithwyr y diwydiant adeiladu a’u teuluoedd

Mae The Lighthouse Club, elusen y diwydiant adeiladu, yn cynnig cymorth emosiynol ac ariannol i deuluoedd mewn argyfwng yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu yn darparu rhwyd diogelwch 24/7 i bob gweithiwr adeiladu a’u teuluoedd yn y DU ac Iwerddon. Mae’n wasanaeth elusennol a gyllidir gan y diwydiant, ar gyfer y diwydiant ac mae’n darparu:

  • Cymorth ariannol brys i deuluoedd adeiladu mewn argyfwng
  • Cyngor ar iechyd galwedigaethol a llesiant meddwl
  • Cymorth ar faterion cyfreithiol, treth a rheoli dyledion

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu ar 0345 605 1956 neu e-bost info@lighthouseclub.org

Maent yn cynnig gweithdai amser cinio ar-lein ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn unrhyw swydd yn y diwydiant adeiladu.

Bydd y pynciau a’r dyddiadau a restrir isod yn cychwyn am hanner dydd ac yn para 45 munud:

  • Dydd Gwener 24 Ebrill 2020 – Build a Work Life Balance, cadwch eich lle yma
  • Dydd Llun 27 Ebrill 2020 – How to Meditate, cadwch eich lle yma
  • Dydd Mawrth 4 Mai 2020 – How to Handle Stress, cadwch eich lle yma
  • Dydd Mercher 13 Mai 2020 – Mindfulness for You, cadwch eich lle yma

Cyhyd â bod gennych fynediad at gyfeiriad e-bost a’r rhyngrwyd, boed hynny ar ffôn clyfar, llechen neu liniadur, gallwch gymryd rhan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan The Lighthouse Club.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.