Bydd cynllun grantiau Covid-19 i fusnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi annomestig yn cau ar gyfer unrhyw geisiadau newydd am 5yh ar 30 Mehefin 2020.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gyflwyno'r grantiau i fusnesau cymwys.
- mae grant o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu adeiladau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000
- grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach (SBRR) yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai
- mae grant gwerth £10,000 ar gael i bob trethdalwyr sy'n gymwys i gael rhyddhad elusennol a chymorth i Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol, sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai
Mae'r cyfyngiad eiddo lluosog sy'n gymwys i'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn berthnasol i'r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant.
Mae'r cyfyngiad eiddo lluosog hwn hefyd yn berthnasol i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol.
Os ydych yn gymwys a heb gyflwyno cais eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno cais drwy’ch awdurdod lleol cyn y dyddiad yma.
Bydd unrhyw geisiadau a dderbyniwyd ar ôl 5yp ar 30 Mehefin 2020 yn cael eu diystyru.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael mwy o wybodaeth.