BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Diogelu busnesau sy’n methu taliadau rhent

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd tenantiaid masnachol na allant dalu eu rhent oherwydd y coronafeirws yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan.

Mae nifer o landlordiaid a thenantiaid eisoes yn cael sgyrsiau ac yn dod i drefniadau gwirfoddol ynglŷn â thaliadau rhent sy'n ddyledus yn fuan, ond mae'r llywodraeth yn cydnabod bod busnesau sy'n cael trafferthion gyda’u llif arian oherwydd y coronafeirws yn dal i boeni am gael eu troi allan.

Bydd y mesurau hyn yn golygu na fydd unrhyw fusnes yn cael eu gorfodi o’u hadeiladau os byddant yn methu taliad yn ystod y 3 mis nesaf.

Am wybodaeth bellach, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i dudalennau cyngor Coronafeirws i fusnesau Busnes Cymru am wybodaeth ar gyfer eich busnes wrth ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.