BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: DIT yn cynnig cymorth i allforwyr a buddsoddwyr

Mae’r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi cyhoeddi canllawiau gan lywodraeth y DU ar sut i helpu i sicrhau cyllid allforio er mwyn dal ati i fasnachu yn ystod yr argyfwng coronafeirws – gan gyfathrebu’n uniongyrchol ag allforwyr a buddsoddwyr.

Yn ogystal â chyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael i gwmnïau i reoli effeithiau coronafeirws, mae DIT yn barod i ddarparu cymorth gydag awdurdodau tollau er mwyn sicrhau bod cynhyrchion busnes yn cael eu clirio’n rhwydd, a chynnig cyngor ar eiddo deallusol a materion eraill sy’n gysylltiedig â pharhad busnes.

Mae’r neges hon yn dilyn y newyddion y bydd busnesau’r DU yn gymwys nawr i sicrhau yswiriant allforio i farchnadoedd, gan gynnwys yr UE, UDA, Japan, Awstralia, Seland Newydd, Canada, Gwlad yr Ia, Norwy a’r Swistir, a hynny ar unwaith, ar ôl i Gyllid Allforio’r DU ehangu cwmpas ei Bolisi Yswiriant Allforio (EXIP).

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes, ewch i dudalennau cyngor am y Coronafeirws Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.