Mae Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriad â’r diwydiant, wedi llunio canllawiau ‘diogel rhag COVID-19’ i helpu i sicrhau bod gweithleoedd mor ddiogel â phosibl.
Mae’r canllawiau newydd yn cwmpasu 8 lleoliad gwaith sy’n cael agor, o amgylcheddau awyr agored a safleoedd adeiladu i ffatrïoedd a tecawês.
Dyma gamau ymarferol ar gyfer busnesau sy’n canolbwyntio ar bum pwynt allweddol, y dylid eu rhoi ar waith cyn gynted ag sy’n ymarferol:
- Os gallwch chi, gweithiwch gartref
- Cynhaliwch asesiad risg COVID-19, mewn ymgynghoriad â gweithwyr neu undebau llafur
- Cadwch bellter cymdeithasol o 2 fetr, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl
- Lle na all pobl gadw 2 fetr ar wahân, rheolwch risg trosglwyddo
- Dilynwch ac atgyfnerthwch brosesau glanhau
Mae’r 8 canllaw yn cwmpasu mathau gwahanol o waith. Mae gan sawl busnes fwy nag un math o weithle, fel swyddfa, ffatri a fflyd o gerbydau. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio mwy nag un o’r canllawiau hyn wrth i chi ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw gweithwyr yn ddiogel.
Mae'r canllawiau yn cynnwys:
- adeiladu a gwaith awyr agored arall
- ffatrïoedd a warysau
- cartrefi
- labordai a chyfleusterau ymchwil
- swyddfeydd a chanolfannau cyswllt
- bwytai sy’n cynnig gwasanaeth tecawê neu ddosbarthu
- siopau a changhennau
- cerbydau
Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho’r canllawiau, ewch i wefan GOV.UK.