BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Gweminarau ACAS a sgwrs fyw ar Twitter

Mae ACAS yn cynnal gweminarau Coronafeirws ar-lein ar gyfer cyflogwyr.

Mae’r gweminarau yn darparu cyngor ymarferol i gyflogwyr er mwyn helpu i reoli effaith coronafeirws yn y gweithle, a gallwch gofrestru i wylio eu recordiad gweminar diweddaraf.

Gallwch hefyd ymuno ag arbenigwyr ACAS bob bore Gwener am 10:30am i sgwrsio yn fyw ar Twitter am eich cwestiynau neu bryderon am y coronafeirws (COVID-19) ac am:

  • amser i ffwrdd o’r gwaith
  • cyflog
  • gweithio o bell
  • pa gamau y gallwch eu cymryd i atal ei ledaeniad

Anfonwch eich cwestiynau ymlaen llaw at @acasorguk gan ddefnyddio’r hashnod #AskAcas

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ACAS.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.