BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19 – mesurau cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru -diweddariad

Bydd set newydd a symlach o reolau cenedlaethol yn dod i rym unwaith y daw cyfnod atal byr Cymru i ben am 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.

Eu nod yw diogelu iechyd pobl a darparu cymaint o ryddid â phosibl tra mae’r feirws yn dal i gylchredeg.

Bydd y mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, yn parhau.
  • Bydd y gofyniad i weithio gartref pan fo’n bosibl yn parhau.
  • Ni ddylai pobl ond cwrdd â’r rhai sy’n rhan o’u ‘swigen’ yn eu cartref eu hunain a dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio ‘swigen’. Os bydd un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunanynysu ar unwaith.
  • Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wedi’i drefnu a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu, cyn belled â’u bod yn dilyn yr holl fesurau o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill.
  • Bydd eglwysi, temlai, synagogau a mannau addoli eraill yn gallu ailagor fel yr oeddent cyn y cyfnod atal byr.
  • Bydd canolfannau cymunedol hefyd yn ailagor.
  • Bydd prifysgolion, ysgolion a cholegau yn parhau i weithredu fel y maent yn ystod y cyfnod atal byr.
  • Bydd siopau, campfeydd a phob safle arall sydd ar agor i'r cyhoedd a oedd yn ofynnol iddynt gau yn ystod y cyfnod atal byr yn ailagor.
  • Gall grwpiau o hyd at 4 unigolyn gyfarfod mewn lleoliad a reoleiddir fel bwyty, caffi neu dafarn. Ond mae hyn yn amodol ar reolau llym a drafodir gyda'r sector lletygarwch, gan gynnwys archebu ymlaen llaw, slotiau amser cyfyngedig a dull adnabod wedi'i ddilysu.
  • Bydd gwerthu alcohol yn parhau i fod yn anghyfreithlon wedi 10pm.
  • Fel rhan o’n hymdrech i leihau ein risgiau cymaint â phosibl, dylai pobl osgoi teithio os nad yw’n hanfodol. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarllen rheoliadau’r Coronafeirws o 9 Tachwedd: cwestiynau cyffredin https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

Cliciwch ar y ddolen ganlynol Canllawiau lletygarwch y DU ar gyfer Lletygarwch yng Nghymru i gael arweiniad sydd wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid y diwydiant ac sy’n berthnasol i fusnesau lletygarwch yng Nghymru sy’n ailddechrau gwasanaeth (y tu mewn a’r tu allan) ar ôl y cyfnod clo byr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.