BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Newidiadau dros dro i adnewyddu trwyddedau gyrru gyrwyr bysiau a lorïau sydd wedi dirwyn i ben

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd hi’n haws i yrwyr bysiau a lorïau adnewyddu eu trwyddedau gyrru sy’n dirwyn i ben, ac mae wedi ymlacio’r gofyniad dros dro i yrwyr bysiau a lorïau ddarparu adroddiad meddygol gan feddyg er mwyn adnewyddu eu trwydded.

O dan y cynllun, bydd gyrwyr yn gallu derbyn trwydded blwyddyn dros dro, ar yr amod nad oes ganddynt gyflyrau meddygol sy’n effeithio ar eu gyrru a bod eu trwydded gyfredol yn dirwyn i ben yn 2020.

Mae angen i yrwyr sydd â phroblemau iechyd ddatgan y rhain, ac ni fydd trwyddedau’r rhai sydd â phroblemau iechyd sy’n eu hatal rhag gyrru’n ddiogel yn cael eu hadnewyddu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.