BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Y diweddaraf am Gynllun Cadw Swyddi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi cyn gwneud hawliad.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • rhif adnabod a chyfrinair Porth y Llywodraeth (GG) – os nad oes gennych chi gyfrif GG, gallwch chi wneud cais am un ar-lein neu fynd i GOV.UK a chwilio am 'HMRC services: sign in or register'
  • wedi cofrestru ar gyfer PAYE ar-lein – os nad ydych chi wedi cofrestru, gallwch chi wneud hynny nawr neu trwy fynd i GOV.UK a chwilio am 'PAYE Online for employers'
  • y wybodaeth ganlynol am bob gweithiwr cyflogedig ar ffyrlo y byddwch chi’n hawlio ar ei gyfer:
  1. Enw.
  2. Rhif Yswiriant Gwladol.
  3. Cyfnod yr hawliad a swm yr hawliad.
  4. Rhif PAYE/gweithiwr cyflogedig (dewisol).
  • os oes gennych chi lai na 100 o staff ar ffyrlo – bydd angen i chi fewnbynnu gwybodaeth yn uniongyrchol i’r system ar gyfer pob gweithiwr cyflogedig
  • os oes gennych chi 100 neu fwy o staff ar ffyrlo – bydd angen i chi lanlwytho ffeil gyda gwybodaeth ar gyfer pob gweithiwr cyflogedig; byddwn yn derbyn y mathau canlynol o ffeil: .xls .xlsx .csv .ods.

Os ydych chi eisiau i asiant weithredu ar eich rhan

Noder y canlynol:

  • gall asiantau a awdurdodir i weithredu ar eich rhan mewn perthynas â materion PAYE wneud yr hawliad ar eich rhan gan ddefnyddio eu rhif adnabod a’u cyfrinair
  • bydd angen i chi ddweud wrth eich asiant i ba gyfrif banc yn y DU rydych chi eisiau i’r grant gael ei dalu er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei dalu i chi cyn gynted â phosibl.

Dylech chi gadw pob cofnod a chyfrifiad mewn perthynas â’ch hawliadau.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.