Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30 miliwn i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig sy’n parhau.
Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.
Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.
I ddarllen y cyhoeddiad yn llawn, ewch i Llyw.Cymru.
Mae’r gronfa bellach ar agor i geisiadau ac mi fydd yn cau ar 20 Ebrill 2021 am 5pm. https://fundchecker.businesswales.gov.wales/culturep2/cy
Bydd amseriad y gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd yn cael ei gyhoeddi ar wahân.