BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru yn agor i ymgeiswyr newydd

Cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, fod trydydd rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn agor ar gyfer ceisiadau heddiw, ac y tro hwn bydd busnesau a sefydliadau nad ydynt wedi derbyn cymorth o'r blaen o dan y gronfa yn gymwys i wneud cais.

Heddiw, gall ymgeiswyr newydd  wneud cais ar wefan Busnes Cymru, lle mae rhagor o fanylion a ffurflenni cais ar gael. Bydd angen dychwelyd ceisiadau erbyn dydd Gwener 11 Chwefror 2022.

I fod yn gymwys, rhaid i fusnesau o'r sectorau digwyddiadau, creadigol a threftadaeth ddarparu tystiolaeth bod eu trosiant o leiaf 50% yn llai rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019/20.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.