BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol

Mae i Gymdeithasau a Sioeau Amaethyddol hanes hir a chlodfawr ac maen nhw wrth galon cymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae i bob un rôl bwysig wrth hyrwyddo ffermio a chynhyrchu bwyd cynaliadwy i’r cyhoedd ehangach ac wrth gynnal cydlyniant cymunedol, ein diwylliant, a’r agenda gwell iechyd.

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, cafodd y rhan fwyaf, os nad pob un o’r sioeau amaethyddol ar draws Cymru eu canslo yn 2020 a bydd nifer fawr yn cael eu canslo yn 2021.

Mae hi’n bwysig fod Cymdeithasau sioeau amaethyddol yn gallu dychwelyd i sefyllfa o rywfaint o normalrwydd ar ôl y pandemig sy’n cynnwys ailgyflwyno sioeau amaethyddol ar draws Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) yn gweinyddu Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol (y Gronfa Arloesi) ar ran Llywodraeth Cymru.

Nod y Gronfa Arloesi yw annog atebion arloesol i helpu i gwrdd â’r heriau presennol ac i gynorthwyo cydweithrediad rhwng Cymdeithasau sioeau amaethyddol.

Bydd y Gronfa Arloesi yn cefnogi prosiectau newydd yn unig – ni fydd dim gweithgareddau ôl-weithredol yn cael eu hystyried.

Mae 3 chategori ariannu:

  • Categori 1 - Arloesi trwy’r pandemig 
  • Categori 2 - Arloesi o fewn y “normal newydd” 
  • Categori 3 - Arloesi sy’n annog cydweithrediad

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 16 Gorffennaf 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CAFC


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.