BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol

group of young adults smiling

Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’ Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o ddylanwadu’n bositif ar gymdeithas ac ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru.

Dyfernir grantiau o hyd at £20,000 y flwyddyn am ddwy flynedd i sefydliadau trydydd sector y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc o dan 25 oed.

Bydd y gronfa’n cefnogi’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu / annog:

  • Mwy o bobl ifanc yn cael mynediad at fwyd iach ac eitemau hanfodol eraill gan gynnwys dillad, deunydd ysgrifennu a thechnoleg.
  • Mwy o bobl ifanc i adeiladu cadernid ariannol ar gyfer ansicrwydd bywyd.
  • Mwy o bobl ifanc yn paratoi ar gyfer y dyfodol a byd gwaith (gan gynnwys meithrin sgiliau).
  • Mwy o bobl ifanc yn byw’n gynaliadwy ac yn cymryd rhan mewn gwarchod ein hamgylchedd naturiol.
  • Mwy o bobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl y mae arnynt ei angen.

Bydd y prosiectau a gefnogir yn bodloni un o’r themâu hyn:

  • Datblygu hyfforddiant a / neu sgiliau ar gyfer cyflogaeth.
  • Cefnogi iechyd meddwl a llesiant.
  • Dysgu sgiliau ariannol (e.e. cynilo a chyllidebu).
  • Ymwybyddiaeth amgylcheddol a / neu gymdeithasol a chadwraethol.
  • Cynnal gweithdai ar draws unrhyw un o’r themâu uchod e.e. coginio’n iach ar gyllideb, siopa wythnosol craff.
  • Cefnogi ymyriadau sy’n helpu disgyblion/myfyrwyr â bywyd ysgol a rhoi’r cyfleoedd gorau iddyn nhw am lwyddo.

Mae'r gronfa hon yn cau ddydd Llun 30 Medi 2024 am 12pm (canol dydd).

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality - Community Foundation Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.