BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Grant Eat It Up 2024

Bwyd

Cyllid newydd i fynd i'r afael â gwastraff bwyd drwy ddatblygiadau arloesol.

Mae'r Gronfa Grant Eat It Up 2024 bellach ar agor a'i nod yw tanio datblygiadau arloesol sy'n lleihau gwastraff bwyd bwytadwy, gan sicrhau bod bwyd yn cael ei fwyta – yn union fel y dylai pethau fod. 

Mae chwe grant o hyd at £60,000 yr un i sefydliadau sydd â syniadau arloesol i leihau gwastraff bwyd.

Gallwch wneud cais os ydych chi'n:

  • Elusen gofrestredig, gan gynnwys sefydliadau corfforedig elusennol a chwmnïau nid-er-elw
  • Menter gymdeithasol
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol
  • Sefydliad addysgol (ysgolion, prifysgolion, colegau)
  • Awdurdod lleol
  • Busnesau bach neu ficro sydd â phwrpas cymdeithasol clir (llai na 50 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan £10 miliwn)

Mae'r Gronfa Eat It Up wedi'i hanelu at arloeswyr sydd ag atebion creadigol i fynd i'r afael â gwastraff bwyd bwytadwy ac mae'n chwilio am geisiadau sy'n:

  • Mynd i’r afael â gwastraff cyn gadael y fferm
  • Atal bwyd rhag cael ei wastraffu ar y cam gweithgynhyrchu a phrosesu
  • Lleihau gwastraff bwyd gan fanwerthwyr
  • Dod o hyd i ffyrdd o leihau neu atal gwastraff bwyd mewn cymunedau neu gartref.

Y dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb yw 5pm 14 Mehefin 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Eat It Up Fund | Hubbub


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.