BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Grantiau Her VocTech

Mae Ymddiriedolaeth Ufi VocTech yn gorff dyfarnu grantiau sy’n canolbwyntio ar gynyddu graddfa dysgu galwedigaethol a chefnogi’r gwaith o ddarparu sgiliau galwedigaethol i oedolion trwy dechnoleg ddigidol.

Sut mae VocTech yn mynd i’r afael â rhwystrau a chodi pontydd i greu newid sylweddol mewn hyder a chymhelliant dysgwyr, gan arwain at ddeilliannau gwell i’r dysgwr, y cyflogwr a chymdeithas yn gyffredinol?

Mae’r Her hon yn canolbwyntio ar oedolion sydd wedi’u heffeithio gan y gagendor digidol ac sydd wedi’u hynysufwyaf o ddysgu fel bod modd iddynt ennill yr hyder sydd ei angen arnynt i gaffael y sgiliau ar gyfer gwaith.

Mae grant cychwynnol gwerth £10,000 ar gael ar gyfer y cam Diffinio (y ddau fath o brosiect), a dilynir hyn gan:

  • Ufi VocTech Ysgogi – Grantiau rhwng £15,000 a £50,000 i brofi syniadau yn y camau cynnar. 
  • Ufi VocTech Effaith – Grantiau hyd at £150,000 ar gyfer atebion VocTech sy’n gallu sicrhau manteision i nifer fawr o ddysgwyr.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Gorffennaf 2021 am 5pm.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://ufi.co.uk/grant-funding/
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.