BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Her Cymru Werdd

Mae Cronfa Her Cymru Werdd yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Ffilm Cymru a Clwstwr, fydd yn edrych ar ddulliau arloesol a chreadigol o fynd ati i feithrin sector sgrin cynaliadwy i Gymru i ymchwilio i, a datblygu dulliau newydd o weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, gyda’r nod o gyflawni allyriadau carbon net sero erbyn 2050. 

Bydd y gronfa arloesi amlddisgyblaethol newydd yn edrych i ganfod datrysiadau i’r prif heriau amgylcheddol o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru.

Pwy all Ymgeisio?
Mae hwn yn alwad ariannu agored i unigolion, sefydliadau a chydweithrediadau ar draws sectorau, gan gynnwys:

  • Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau
  • Academia
  • Technoleg (TG, Meddalwedd, Electroneg a Gwasanaethau Cyfrifiadurol)
  • Trafnidiaeth
  • Ynni a Dŵr
  • Rheoli gwastraff

Bydd Cronfa Her Cymru Werdd yn agor i ddatganiadau o ddiddordeb hyd 20 Awst 2021, defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac ymgeisio: Cronfa Her Cymru Werdd | Ffilm Cymru (ffilmcymruwales.com)


 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.