BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol yn cynnal digwyddiadau diwydiant i fusnesau ar gyfer cystadleuaeth newydd gwerth £60 miliwn

Yn ddiweddar, agorodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) gystadleuaeth newydd fel rhan o Gam 2 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) ar gyfer Gwanwyn 2022 a bydd yn cynnal cyfres o glinigau ar gyfer rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid IETF. Mae BEIS hefyd yn cynnal digwyddiad Arddangos Technoleg ar 10 Mawrth 2022 i arddangos rhai o'r prosiectau y mae IETF yn eu hariannu a'r hyn sydd ar gael yng Ngham 2. 

Gall busnesau yng Nghymru nawr wneud cais am gyfran o hyd at £60 miliwn o gyllid grant drwy'r cyfnod cystadlu newydd, a fydd yn parhau o 31 Ionawr hyd 29 Ebrill 2022. Bydd y gystadleuaeth yn darparu cyllid grant tuag at gostau astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg, prosiectau arbed ynni a phrosiectau defnyddio dulliau datgarboneiddio dwfn.

I gael gwybod mwy am gystadleuaeth Cam 2 IETF ar gyfer Gwanwyn 2022 sydd werth £60 miliwn, edrychwch ar ganllawiau'r ymgeiswyr a gwnewch cais am gyllid, ewch i dudalen y gystadleuaeth.
 
Digwyddiad Arddangos Technoleg yr IETF

 
Bydd BEIS yn cynnal digwyddiad byw yn Birmingham ddydd Iau 10 Mawrth 2022 i arddangos rhai o’r prosiectau a ariennir gan yr IETF. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfle i glywed gan safleoedd gweithgynhyrchu sy'n bwriadu defnyddio technolegau i leihau eu galw am ynni megis adfer gwres, VAR, dulliau rheoli prosesau a dulliau i leihau eu hallyriadau carbon fel dal carbon a newid tanwydd i hydrogen.

Yn ogystal â helpu i ddeall sut y gall technoleg gynorthwyo eich safle i gyrraedd carbon sero net, bydd yn gyfle gwych i rwydweithio wyneb yn wyneb ac adeiladu partneriaethau ar gyfer ffenestri cystadleuaeth IETF yn y dyfodol.

I gofrestru i fynychu ein Harddangosfa Dechnoleg, ewch i'n safle cofrestru.
 
Clinigau rhanddeiliaid IETF
 
Mae'r clinigau rhanddeiliaid yn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyllid Cam 2 drwy eu galluogi i siarad yn uniongyrchol â BEIS a gofyn cwestiynau am geisiadau posibl, cwmpas y cystadlaethau, meini prawf cymhwysedd, sut i wneud cais am gyllid, y gwasanaethau cymorth a gwybodaeth sydd ar gael fel rhan o’r IETF, ac yn y blaen. 

Maent yn gyfle gwych i ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau ac mae’r IETF yn croesawu'r cyfle i allu siarad â chi a helpu gyda'ch ymholiadau. Cynhelir y clinigau bob pythefnos a bydd y rhai cyntaf yn cael eu cynnal ar 8 Mawrth a 22 Mawrth 2022. 

I gofrestru i fynychu ein clinigau ar gyfer rhanddeiliaid, ewch i'n safle cofrestru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.