BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa’r Dyfodol: Breakthrough

Breakthrough sy’n annog buddsoddwyr preifat i gyd-fuddsoddi mewn cwmnïau twf uchel, arloesol.

Mae’r rhaglen yn gwneud cyd-fuddsoddiadau ecwiti gyda buddsoddwyr sector preifat mewn cwmnïau ymchwil a datblygu dwys o Brydain sydd mewn cyfnod twf ac sy’n gweithredu mewn sectorau technoleg arloesol. Rhaid i gyfanswm y buddsoddiad yn y cylch fod yn £30 miliwn o leiaf. Uchafswm cyfran Cronfa’r Dyfodol: Breakthrough mewn cylch buddsoddi yw 30%.

Mae’n rhaglen ar wahân i hen Gronfa’r Dyfodol a oedd yn darparu benthyciadau trosadwy, gwerth hyd at £5 miliwn, i ystod eang o gwmnïau arloesol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau cyllid a achosir gan Covid-19.

Am fanylion llawn Cronfa’r Dyfodol: Breakthrough, gan gynnwys meini prawf cymhwystra cwmni a phrif fuddsoddwr, gweler y tudalennau ‘For companies’ a ‘For investors’ ar wefan British Patient Capital.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.