Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi lansio offeryn digidol i helpu busnesau i amcangyfrif beth allai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu iddyn nhw.
Mae’r Offeryn Amcangyfrif TAW yn deillio o adborth busnesau bach a awgrymodd y byddai offeryn ar-lein yn ddefnyddiol i ddangos pryd y gallai eu trosiant olygu bod angen i fusnesau gofrestru ar gyfer TAW a’i heffaith ar elw.
Mae’n rhaid i fusnes gofrestru ar gyfer TAW os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae cyfanswm ei drosiant trethadwy TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf yn fwy na £90,000 – sef y ‘trothwy TAW’ – roedd hyn yn £85,000 tan 31 Mawrth 2024.
- mae disgwyl i’w drosiant fod yn uwch na’r trothwy TAW o £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
- mae’n fusnes tramor sydd heb ei leoli yn y DU ac sy’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf) – waeth beth yw ei drosiant TAW.
Mae’n rhaid i fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW godi TAW ar werthiannau cymwys. Fel arfer, gall adhawlio TAW ar bryniannau cymwys. Mae tua 300,000 o gofrestriadau TAW newydd bob blwyddyn.
Gall yr offeryn newydd helpu unrhyw fusnes i weld beth allai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu, yn ogystal â rhoi cysylltiadau i wybodaeth bellach iddynt ynghylch y broses gofrestru. Mae hefyd yn offeryn defnyddiol i fusnesau sy’n gweithredu o dan y trothwy ac sy’n ystyried cofrestru’n wirfoddol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: CThEF yn lansio Offeryn Amcangyfrif TAW - GOV.UK (www.gov.uk)
Cofrestrwch ar gyfer y weminar fyw nesaf ynghylch yr Offeryn Amcangyfrif TAW.
Byddwch yn dysgu:
- beth mae'r Offeryn Amcangyfrif TAW yn ei wneud
- pwy all ei ddefnyddio
- pa wybodaeth y bydd ei hangen arnoch
Byddwch hefyd yn cael canllaw cam wrth gam ar sut i ddefnyddio'r amcangyfrifydd.
Gweminar wedi'i recordio
Gwyliwch weminar wedi'i recordio am yr Offeryn Amcangyfrif TAW.