Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn annog busnesau a siopwyr i ystyried rhai cynghorion da cyn dechrau pori ar-lein er mwyn bod yn siŵr nad oes rhaid talu tollau annisgwyl a gwario mwy nag a fwriadwyd yn ystod y tymor gwyliau hwn.
Fel oedd rhaid i ddefnyddwyr dalu ffioedd o'r blaen wrth brynu eitemau penodol gan werthwyr y tu allan i’r UE, yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd ar 1 Ionawr 2021, mae'n bosibl y bydd angen iddynt wneud hynny wrth brynu nwyddau o'r UE hefyd.
Mae CThEM yn argymell y dylai pobl edrych ar 7 pwynt allweddol i weld a fydd taliadau ar eu nwyddau. Os oes angen gwneud taliadau, mae cwsmeriaid yn cael eu rhybuddio am yr angen posibl i dalu 'ffi trafod' i'r cwmni cludo hefyd, cyn i'w nwyddau gael eu rhyddhau.
Cynghorion da
- Cyngor da 1: Bod yn ymwybodol o'ch lleoliad fel y derbynnydd
- Cyngor da 2: Cadarnhau a yw eich archeb yn cynnwys nwyddau sy'n rhaid talu tollau cartref amdanynt, fel tybaco, alcohol neu bersawr
- Cyngor da 3: Cadarnhau a yw eich archeb yn werth mwy na £135, cyn costau ychwanegol fel cludiant ac yswiriant
- Cyngor da 4: Cofio am y taliadau newydd os ydych chi'n anfon anrhegion dramor – neu os oes rhywun dramor yn anfon anrhegion atoch chi
- Cyngor da 5: Bod yn ymwybodol o sut a phryd y gallech gael eich hysbysu am daliadau
- Cyngor da 6: Darllen y canllawiau sydd ar gael i chi
- Cyngor da 7: Gofyn i'r gwerthwr a yw'r nwyddau'n tarddu o'r UE ac a ydynt yn nwyddau tariff sero
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK