BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cwsmeriaid CThEM sydd â chyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post yn cael rhagor o amser i newid cyfrifon

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau y bydd cwsmeriaid sy’n derbyn taliadau budd-dal CThEM i gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post yn cael rhagor o amser i newid eu cyfrif.

Mae CThEM yn cydnabod y cymorth ariannol hanfodol y gall credydau treth, Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwaid ei ddarparu i unigolion a theuluoedd, ac mae am roi pob cyfle posibl iddynt dderbyn y budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w derbyn.

Mae’r adran wedi trefnu estyniad unigryw i’r contract gyda Swyddfa’r Post a fydd yn rhoi hyd at 5 Ebrill 2022 i gwsmeriaid ddarparu manylion cyfrif amgen i CThEM.

Mae hyn yn golygu y bydd y 1,300 o gwsmeriaid nad ydynt wedi hysbysu CThEM eto yn gallu parhau i dderbyn eu taliadau i’w cyfrifon Swyddfa’r Post, gan roi rhagor o amser iddynt agor cyfrifon newydd a hysbysu’r adran.

Mae CThEM yn parhau i annog y rhai sy’n elwa ar yr estyniad i newid eu cyfrifon cyn gynted â phosibl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.