Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.
Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: CRISP23 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein.
Meddylfryd: realiti estynedig ar gyfer iechyd meddwl digidol llinyn 1
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £4.5 miliwn i gefnogi astudiaethau dichonoldeb ymchwil a datblygu sy’n darparu datrysiadau therapiwtig digidol ymdrwythol ar gyfer iechyd meddwl. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais
Catalydd Creadigol: deallusrwydd artiffisial yn y diwydiant cerddoriaeth
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £1 filiwn ar gyfer prosiectau sy’n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd arloesol ar gyfer diwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais
Deallusrwydd Artiffisial: Her Arloesedd Tegwch
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £400,000 ar gyfer prosiectau a fydd yn arwain at ddatrysiadau newydd i fynd i’r afael â thuedd a gwahaniaethu mewn systemau deallusrwydd artiffisial. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais
Pwynt lansio: diwydiant net sero, De-orllewin Cymru rownd 1
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau sy’n datblygu gweithgareddau yn y clwstwr diwydiannol sero net yn Ne-orllewin Cymru. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais
Pwynt lansio: technolegau digidol, Gogledd-ddwyrain Lloegr rownd 1
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau a arweinir gan fusnes sy’n datblygu gweithgareddau yn y clwstwr technolegau digidol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais
Pwynt lansio: technoleg iechyd, Gorllewin Swydd Efrog rownd 1
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau sy’n datblygu gweithgareddau yn y clwstwr arloesedd technoleg iechyd yng Ngorllewin Swydd Efrog. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais
Pwynt lansio: gwyddorau bywyd ac iechyd, Gogledd Iwerddon rownd 1
Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau a arweinir gan fusnes sy’n datblygu gweithgareddau yn y clwstwr arloesedd gwyddorau bywyd ac iechyd yng Ngogledd Iwerddon. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais