Daeth Cyflog Byw Cenedlaethol 2020 i rym ddydd Mercher 1 Ebrill 2020.
Mae’r gyfres lawn o daliadau isod:
- y Cyflog Byw Cenedlaethol i bobl 25 oed a hŷn yw £8.72 yr awr
- yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl 21 i 24 oed yw £8.20 yr awr
- yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl 18 i 20 oed yw £6.45 yr awr
- yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed yw £4.55 yr awr
- y gyfradd ar gyfer prentisiaid yw £4.15 yr awr
Mae diwygiadau marchnad lafur pellach hefyd yn dod i rym ar 6 Ebrill, gan wella hawliau gweithwyr yn gyffredinol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- absenoldeb a thâl profedigaeth rhiant
- cyfrifo tâl gwyliau
- rhoi diwedd ar y gwendid cyfreithiol lle mae rhai cwmnïau yn gallu talu llai i weithwyr asiantaeth na staff parhaol
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.