Bydd “cyfnod atal byr” yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru i helpu i ddod ag achosion o’r coronafeirws o dan reolaeth unwaith eto. Golyga hyn y bydd cyfres o fesurau ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan 12:01am ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.
Dim mynd allan, heblaw ar gyfer bwyd, addysg, gofal, iechyd neu waith, os na allwch weithio gartref.
Dim cwrdd â phobl sydd ddim yn byw gyda chi, dan do neu tu allan.
Ac wrth fynd allan, rhaid cadw pellter bob amser, golchi’n dwylo’n aml a gwisgo masg lle bo rhaid.
Darllenwch y rheolau ar-lein llyw.cymru/coronafeirws
Cliciwch yma i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin Cyfnod atal y coronafeirws.