Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r cyfraddau statudol arfaethedig ar gyfer tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, tâl rhiant a rennir, tâl mabwysiadu, tâl profedigaeth rhiant a thâl salwch o fis Ebrill 2022.
Mae'r cyfraddau fel arfer yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) ac yn digwydd ar y Sul cyntaf ym mis Ebrill, sef 3 Ebrill yn 2022.
Mae cyfraddau’r isafswm cyflog cenedlaethol a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2022 eisoes wedi'u cyhoeddi.
Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK