Bydd record ailgylchu drawiadol Cymru yn gwella diolch i gyfraith newydd a basiwyd yn y Senedd yr wythnos hon.
Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru.
Bydd y gyfraith yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024 a bydd yn cynyddu ailgylchu ac yn lleihau faint o wastraff a anfonir i'w losgi ac i safleoedd tirlenwi.
Bydd hefyd yn gwella ansawdd a maint deunyddiau ailgylchadwy a gesglir o weithleoedd, a fydd yn ei dro yn dal deunyddiau pwysig i'w bwydo'n ôl i economi Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:
- Cyfraith newydd yn gwella ailgylchu yn y gweithle a record drawiadol Cymru | LLYW.CYMRU
- Datganiad Ysgrifenedig: Gwneud y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle a chyhoeddi’r Cod Ymarfer (4 Rhagfyr 2023) | LLYW.CYMRU
Mae canllawiau a chymorth ar gael yn: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU