BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi canllawiau i gefnogi byd busnes yn sgil y cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd

Yn dilyn cytuno ar gytundeb masnach gyda’r UE, mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion (OPSS) yn helpu i sicrhau bod busnesau yn deall yr hyn sydd i’w ddisgwyl ganddynt, gan gynnwys problemau fel defnyddio nodau UKCA.

Mae hyn bellach yn cynnwys y canllawiau cryno ‘What’s Changed?’ i newidiadau allweddol mewn cysylltiad â deddfwriaeth diogelwch cynnyrch penodol a mesureg a ddiwygiwyd gan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch a Mesureg etc (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019.

Mae’r canllawiau yn rhoi arwydd clir o ba reolau a rheoliadau y bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â nhw nawr bod y Cyfnod Pontio wedi dod i ben.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.