BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid i Ddatblygu Sgiliau Digidol ac Ariannol Pobl Dan Anfantais

Mae grantiau hyd at £150,000 ar gael i gefnogi elusennau a Chwmnïau Buddiannol Cymunedol sy’n gweithio i ddatblygu sgiliau digidol ac ariannol pobl. 

Mae’r cyllid ar gael trwy Gronfa Grymuso Ariannol a Digidol Ymddiriedolaeth Santander, sy’n gronfa newydd gwerth £1.8 miliwn. Bydd y gronfa yn cefnogi hyd at 12 prosiect sy’n helpu i ddarparu adnoddau, gwybodaeth a hyder i bobl dan anfantais fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwell ar sail gwybodaeth am arian, a’u helpu i gael cyfleoedd cyflogaeth ac addysg newydd. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Awst 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ymddiriedolaeth Santander.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.