BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid newydd i leihau effaith amgylcheddol pecynnau plastig

Mae her Pecynnau Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP) Ymchwil ac Arloesi yn y DU wedi cyhoeddi cronfa gwerth £7 miliwn newydd. Mae’r gystadleuaeth ar agor i brosiectau sy’n datrys cynaliadwyedd pecynnau plastig.

Mae Pecynnau Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP) yn chwilio am brosiectau ymchwil a datblygu uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau adnabyddus ynghylch cynaliadwyedd pecynnau plastig. Yn gyson â chylch gwaith Pecynnau Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP), y nod yw sbarduno newid go iawn o ddatrysiad economi linol i ddatrysiad economi gylchol ar gyfer pecynnau plastig.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ddydd Mercher 8 Medi 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.