£1.5 biliwn yn ychwanegol i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau bach a sbarduno twf economaidd – dyna sylfaen Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026.
Bydd y cynlluniau gwario cyfalaf yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf yng ngham y Gyllideb Ddrafft, sy’n golygu y bydd modd buddsoddi’n sylweddol mewn adeiladau ysgolion, seilwaith y GIG, tai a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Er mwyn cefnogi busnesau Cymru, bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei gapio ar 1% ar gyfer 2025-2026 a bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn parhau i gael rhyddhad o 40% tuag at eu biliau. Bydd cyfanswm o £335 miliwn yn cael ei wario ar gymorth ardrethi annomestig yn 2025-2026.
Ni fydd cyfraddau Treth Incwm Cymru yn newid – bydd talwyr treth incwm Cymru yn parhau i dalu'r un cyfraddau â phobl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ond mae'r Gyllideb Ddrafft yn cynnwys nifer o fesurau treth eraill, a fydd yn codi arian i gefnogi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ac yn helpu i gefnogi uchelgeisiau Cymru i ailgylchu mwy o wastraff.
O 11 Rhagfyr 2024 ymlaen, bydd cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir sy'n berthnasol i brynu eiddo preswyl ychwanegol yn cynyddu 1%, gan godi amcangyfrif o £7 miliwn yn ychwanegol yn 2025-2026. Mae'r newid hwn yn cyd-fynd yn fras â newidiadau a wnaed i Dreth Tir y Dreth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Bydd cyfradd safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn codi i £126 ac i £6.30 fesul tunnell ar gyfer y gyfradd is i helpu i leihau swm y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi ac annog mwy o ailgylchu.
I ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyllideb i greu dyfodol mwy disglair i Gymru | LLYW.CYMRU