BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru i gyflawni un o brosiectau ffyrdd mwyaf y DU yr haf hwn

A465  section 5 and 6 Dowlais

Bydd un o brosiectau ffyrdd mwyaf, a mwyaf heriol yn dechnegol, y DU yn cael ei gwblhau yng Nghymru yr haf hwn.

Bydd y prosiect £1.4 biliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gwella hygyrchedd, yn lleihau amseroedd teithio, yn darparu gwytnwch a dibynadwyedd ychwanegol, ac yn gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Ar ôl ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, bydd prosiect yr A465 (Hirwaun i Ddowlais) yn darparu 17.7km o ffordd ddeuol newydd, 6.1km o ffyrdd ymyl, mwy na 14km o lwybrau teithio llesol, 38 cwlfert newydd (strwythur sy'n sianelu dŵr heibio rhwystr), 30 o bontydd newydd a 28 wal gynnal.

Yn ogystal â chysylltu cymunedau drwy gysylltu'r Cymoedd, De a Gorllewin Cymru â Chanolbarth Lloegr a thu hwnt, mae'r cynllun hefyd wedi creu cyfleoedd sylweddol i'r economi leol, gan gynnwys:

  • creu mwy na 2,000 o swyddi newydd gyda dros hanner y rhai sy'n cael eu cyflogi yn byw yn yr ardal leol
  • cyflogi 158 o brentisiaid gydag ychydig llai na hanner ohonynt yn dod o'r Cymoedd, gan helpu i gefnogi hyfforddiant addysg a sgiliau
  • cefnogi mwy na 66 o fentrau cymunedol
  • gwario mwy na £200 miliwn yng nghadwyn gyflenwi'r Cymoedd
  • darparu mwy na 22,000 awr o ymgysylltu â disgyblion

Yn ogystal â manteision economaidd, mae'r prosiect hefyd wedi creu cyfres o fanteision amgylcheddol. I liniaru’r effeithiau ecolegol, mae cyfres o fesurau wedi cael eu rhoi ar waith fel rhan o’r prosiect. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • adleoli rhywogaethau, fel y fadfall ddŵr gribog a glöyn byw britheg y gors a chreu cynefinoedd newydd i gefnogi’r rhain ochr yn ochr ag ystlumod, y pathew a’r gornchwiglen
  • adleoli bonion wedi’u tocio ac uwchbridd o goetiroedd hynafol sydd wedi’u heffeithio gan y prosiect
  • plannu mwy na 55,000 o goed a llwyni yn yr ardal leol gyda disgwyl i gyfanswm o 120,000 fod wedi eu plannu erbyn diwedd y rhaglen

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymru i gyflawni un o brosiectau ffyrdd mwyaf y DU yr haf hwn | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.