Rhaid i bobl yng Nghymru ddangos Pàs COVID neu eu statws COVID-19 i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr o heddiw ymlaen.
Mae cyflwyno’r Pàs COVID yn adeiladu ar y mesurau sydd ar waith i helpu i ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor yn ystod y pandemig.
Mae achosion o’r coronafeirws yn uchel o hyd ledled Cymru, yn enwedig ymysg oedolion iau.
Mae’r gyfraith yn newid heddiw i’w gwneud yn ofynnol i oedolion dros 18 oed ddangos Pàs COVID y GIG neu brawf COVID-19 negatif i fynd i leoliadau penodol:
- clybiau nos a lleoliadau tebyg
- digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl
- digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
- unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.