Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn annog pawb i barhau i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws wrth iddo gadarnhau y bydd Cymru’n symud i’r lefel rhybudd sero newydd am 6am ar 7 Awst 2021, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru.
- Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl y cewch gwrdd â nhw, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus a digwyddiadau.
- Bydd busnesau a oedd yn gorfod bod ar gau yn cael ailagor, gan gynnwys clybiau nos.
- Bydd gan leoliadau sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd fwy o hyblygrwydd o ran pa fesurau rhesymol i’w cymryd i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws. Ond dylai’r rhain gael eu teilwra i’w hasesiad risg a’u hamgylchiadau penodol.
- Ni fydd gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau lletygarwch lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini. Er hynny, byddant yn parhau i fod yn ofynnol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus o dan do.
Hefyd ar 7 Awst 2021 (o 00.01 ymlaen), ni fydd oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn, na phlant a phobl ifanc o dan 18 oed, yn gorfod hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.
Canllawiau:
- Canllawiau i fusnesau, cyflogwyr, sefydliadau a threfnwyr gweithgareddau a digwyddiadau wneud yng Nghymru
- Canllawiau i'r cyhoedd
- Cwestiynau cyffredin
- Crynodeb
- Lefel rhybudd sero
- Cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau: coronafeirws
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.