Cael mynediad at gymorth am ddim gan arbenigwyr a helpu’ch busnes i ddod dros effaith y Coronafeirws.
Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi cydweithio i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i ddod dros effaith y Coronafeirws.
Bydd y cynnig ar gael tan 31 Rhagfyr 2020.
Mae cyrff proffesiynol a chymdeithasau masnach yn trefnu arbenigwyr yn eu sector i gynnig galwadau am ddim ar bynciau o gyfrifeg i hysbysebu, adnoddau dynol a materion cyfreithiol.
Mae Enterprise Nation yn darparu mynediad am ddim at y llwyfan, tan 31 Rhagfyr 2020, er mwyn galluogi busnesau bach a chanolig sydd angen cyngor a chymorth i gysylltu â chynghorwyr busnes sy’n cynnig cymorth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Enterprise Nation.