Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol cadw golwg ar iechyd ar gyfer rhai risgiau iechyd.
Mae cadw golwg ar iechyd yn gynllun o wiriadau iechyd a gynhelir yn rheolaidd i nodi afiechydon a achosir gan waith.
Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud hi'n ofynnol i chi gadw golwg ar iechyd pan fydd eich gweithwyr yn parhau i wynebu risgiau i iechyd ar ôl i chi roi rheolaethau ar waith.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ei dudalennau gwe ar gadw golwg ar iechyd yn ddiweddar ac maen nhw'n rhoi cyngor ar:
- Reoli'r risg
- Ymgynghori â gweithwyr ynghylch cadw golwg ar iechyd
- Deall pa fath o fesurau cadw golwg ar iechyd sydd eu hangen ar eich busnes
- Sefydlu cynllun cadw golwg ar iechyd
- Gweithredu ar ganlyniadau cadw golwg ar iechyd
I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalennau cadw golwg ar iechyd HSE.