Mae adolygiad technegol manwl wedi’i gwblhau o’r cynllun Cyber Essentials, a fydd yn helpu sefydliadau i sicrhau bod data pwysig yn cael ei drin yn ddiogel a bod eu rhwydweithiau yn ddiogel hefyd.
Mae’r cynllun Cyber Essentials yn cael ei ddatblygu gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – rhan o GCHQ – a’i gyflwyno gan IASME. Mae’n gynllun ardystio sy’n cynorthwyo sefydliadau o bob maint i’w diogelu eu hunain yn erbyn bygythiadau ar-lein a dangos ymrwymiad i seiberddiogelwch i gwsmeriaid a rhanddeiliaid.
Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn dilyn adolygiad technegol manwl er mwyn helpu sefydliadau i fod yn barod ar gyfer unrhyw fygythiadau seiber newydd. Mae’r prif newidiadau yn cynnwys diwygio’r defnydd o wasanaethau cwmwl, gweithio gartref, dilysu aml-ffactor, rheoli cyfrineiriau, a diweddariadau diogelwch.
Trwy’r cynllun Cyber Essentials, mae busnesau yn gallu dysgu sut i amddiffyn eu hunain trwy ddiogelu cysylltiadau a dyfeisiau’r rhyngrwyd, rheoli mynediad at ddata, a deall sut i ddiogelu eu hunain yn erbyn meddalwedd wystlo.
Am ragor o wybodaeth ewch i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol - NCSC.GOV.UK