BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru

Grant i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau, neu ariannu’r costau hynny’n rhannol.

Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu (neu ariannu’n rhannol) costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Nid yw'n cynnwys costau rhentu misol.

Cyn ystyried y cynllun hwn, defnyddiwch declyn gwirio cyfeiriadau Openreach i gael gwybod a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym. Mae yna gyflenwyr eraill sy’n darparu rhwydweithiau band eang yng Nghymru. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda darparwyr band eang neu defnyddiwch wefannau cymharu prisiau.

Rhaid i gysylltiadau newydd drwy'r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder. Rhaid i'r cysylltiad newydd o leiaf ddyblu eich cyflymderau lawrlwytho cyfredol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.