Mae'r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol sy'n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor.
Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid hyd at 17 Rhagfyr 2021 sy'n cwmpasu:
- 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran y sawl sy'n cymryd rhan) am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig
- isafswm cyfraniadau pensiwn ymrestru awtomatig
Gall cyflogwyr wasgaru dyddiadau dechrau'r swyddi hyd at 31 Mawrth 2022.
Cewch gyllid hyd at 30 Medi 2022 os bydd person ifanc yn dechrau ar ei swydd ar 31 Mawrth 2022.
Mae cyllid pellach ar gael ar gyfer hyfforddiant a chymorth fel y gall pobl ifanc ar y cynllun gael swydd yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Kickstart, ewch i wefan GOV.UK