BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Llysgenhadon Cymru

Person holding a Welsh flag overlooking the Cambrian mountains

Cyrsiau ar-lein am ddim i bawb ddysgu mwy am rinweddau arbennig Cymru.

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru’n gyfres o gyrsiau ar-lein am ddim a fydd yn eich cyflwyno i wahanol ardaloedd ac atyniadau yng Nghymru. Gallwch gynyddu eich gwybodaeth am Gymru a helpu eraill i fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliad.

Gall pawb elwa ar y cynllun ar-lein rhad ac am ddim hwn.

Os ydych chi'n berchennog busnes, mae'n ffordd wych o rannu'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu gyda'ch cwsmeriaid. Mae hefyd yn ffordd rad a hawdd o gynnwys eich tîm i helpu ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt a’u galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eu hymweliad yng Nghymru.

Os ydych chi'n berson chwilfrydig sydd eisiau gwybod mwy am yr ardal leol, mae'n ffordd wych o ddarganfod beth arall sydd i'w weld a'i wneud.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Llysgennad Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.