BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun newydd i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith

Mae helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu i sicrhau eu bod yn cael cyfle i fyw bywydau llawn ac annibynnol, yn ôl y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a oedd yn siarad heddiw (23 August 2022) ar ôl cyfarfod â dyn o Gaerdydd sy’n dathlu carreg filltir yn ei waith.

Cyfarfu Mrs Morgan â Harry Clements, 28, sydd â syndrom Down, yn ei weithle yn Greggs yng Nghaerdydd lle mae newydd gwblhau pum mlynedd o gyflogaeth.

Mae’n un o’r cannoedd o bobl â syndrom Down sydd wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglen WorkFit y Gymdeithas Syndrom Down, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Roedd yn bleser gwrdd â Harry a’i gyflogwyr heddiw. Mae’n esiampl wych i eraill sydd ag anableddau dysgu. Mae cael y cyfle i gael swydd â chyflog yn hynod bwysig i bawb, o ran eu hunan-barch a byw bywyd annibynnol.

Mae hyn yn elfen allweddol o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar Anabledd Dysgu, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Bydd cynlluniau fel rhaglen WorkFit yn darparu cyflogaeth, hyfforddiant a chymorth i bobl ag anableddau dysgu er mwyn eu helpu i ymuno â’r gweithle a pharhau’n rhan ohono.

Bydd ein cynllun gweithredu hefyd yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu i’w helpu i gael mynediad at gynlluniau prentisiaethau.”

Dywedodd Harry:

“Dw i wrth fy modd yn gweithio yn y swydd hon, mae’n gwneud imi deimlo’n falch ac yn hapus. Dw i’n mwynhau gwisgo iwnifform a sgwrsio gyda’r cwsmeriaid a chwrdd â phobl newydd. Dw i’n edrych ymlaen at fynd i’r gwaith bob dydd ac ennill fy nghyflog fy hunan.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/cynllun-newydd-i-helpu-pobl-ag-anableddau-dysgu-i-gael-gwaith 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.