BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Darparu Gwybodaeth ar gyfer Ailbrisio 2023

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cysylltu â busnesau i ofyn am wybodaeth i gefnogi’r broses o ailbrisio ardrethi busnes ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr.

Unwaith y bydd trethdalwyr yn derbyn cais drwy lythyr, mae angen iddynt fynd ar-lein a chyflwyno’u manylion diweddaraf. I rai dosbarthiadau eiddo arbenigol, gofynnir i chi ddarparu’ch gwybodaeth drwy e-bost, felly unwaith y byddwch yn derbyn cais dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich llythyr.

Defnyddir y wybodaeth gan drethdalwyr i bennu gwerthoedd ardrethol, a fydd yn eu tro yn cael eu defnyddio i gyfrifo ardrethi busnes, i sicrhau bod eich ardrethi busnes yn gywir ac yn adlewyrchu’r farchnad eiddo bresennol ynghyd ag effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.