Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi ei Ddatganiad yr Hydref. Nodir rhai pwyntiau allweddol isod:
- Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu o £11.44 i £12.21 yr awr o fis Ebrill 2025.
- Bydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 18 i 20 oed hefyd yn codi o £8.60 i £10.00 yr awr.
- Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn codi o 13.8% i 15%.
- Bydd y trothwy eilaidd, sef y lefel y mae cyflogwyr yn dechrau talu yswiriant gwladol ar gyflog pob gweithiwr, yn cael ei ostwng o £9,100 y flwyddyn i £5,000.
- Bydd y Lwfans Cyflogaeth yn codi o £5,000 i £10,500.
- Cafodd y toriad o 5c mewn treth tanwydd ei gadw am flwyddyn arall.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Autumn Budget 2024 - GOV.UK