BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Newidiadau i Deithio Rhyngwladol

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Datganiad 5 Ionawr 2022.

“Yn sgil y risgiau parhaus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn newydd omicron, sydd wedi dod i’r amlwg yn gyflym yn ddiweddar, rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd oni bai bod hynny’n hanfodol.

Ychydig wythnosau yn unig ar ôl iddo ddod i sylw Sefydliad Iechyd y Byd, mae omicron wedi lledaenu o gwmpas y byd, a bellach dyma’r amrywiolyn cryfaf o’r feirws yn y DU.

Yn unol â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, rwyf heddiw, yn anfoddog, wedi cytuno i ddileu’r gofynion i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phobl dan 18 oed wneud prawf cyn ymadael a phrawf PCR diwrnod 2 pan fyddant yn cyrraedd y DU.

Bydd angen i bob teithiwr sydd wedi’i frechu’n llawn wneud prawf dyfais llif unffordd (LFD) ar ddiwrnod 2, ac os bydd yn bositif, prawf PCR dilynol er mwyn galluogi dilyniant genom i gael ei gynnal. Mae’r gofyniad i hunanynysu hyd nes y ceir prawf negatif hefyd wedi cael ei ddileu.

Mae’r gofynion ar gyfer teithwyr sydd heb eu brechu yn parhau heb eu newid.

Bydd y newidiadau hyn dechrau dod i rym o 4am ddydd Gwener 7 Ionawr 2022. Caiff profion llif unffordd eu derbyn fel profion ar ôl cyrraedd o 4am ddydd Sul 9 Ionawr 2022."

Am ragor o wybodaeth ewch i  LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.