BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deall Cynulleidfaoedd Cymru Greadigol – Arolwg Ar-Lein

Ydych chi yn y diwydiannau creadigol? Beth a sut ydych chi am glywed gan Cymru Greadigol?

Mae Cymru Greadigol yn gofyn i chi am y diwydiant rydych chi'n gweithio ynddo, sut y gallant ymgysylltu â chi'n well a'r hyn rydych chi'n ei ddisgwyl gan eu tîm marchnata a chyfathrebu.

Mae Cymru Greadigol wedi llunio arolwg yn ffurfio rhan o brosiect ymchwil sy’n ymwneud â’n perthynas gyda phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn y dyfodol, gan gynnwys y sectorau gemau, animeiddio, teledu, ffilm, technoleg greadigol, cyhoeddi a cherddoriaeth. 

Bydd hyn yn sicrhau y gallant anfon gwybodaeth berthnasol, amserol atoch yn y dyfodol, gan gynnwys gwybodaeth bwysig am gyfleoedd cyllid a chymorth.

Llenwch yr arolwg byr yma: https://www.smartsurvey.co.uk/s/ZSJ5OW/
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.